Dolenni defnyddiol
Dyffryn Clwyd
Beth am ddod i weld yr ardal hynod ddiddorol hon sy’n gyforiog o hanes a diwylliant:
Yn y gorllewin mae harddwch gwylltir Mynydd Hiraethog, a thua’r dwyrain fe welwch dirwedd drawiadolAHNE Bryniau Clwyd; mae’r Dyffryn yn frith o drefi sy’n llawn diwylliant tra mae amrywiaeth eang o atyniadau a gweithgareddau yn hybu cymeriad amrywiol a thoreithiog yr ardal brydferth hon.
Mae Rhuddlan, Llanelwy, Dinbych a Rhuthun yn drefi hanesyddol bywiog a ffyniannus ac mae ganddynt siopau annibynnol neilltuol, bwticau, safleoedd hanesyddol ac orielau - o siopau bwydydd tramor arbenigol hyd at gelfyddyd a chrefft gyfoes, arloesol yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Gallech gamu’n ôl mewn hanes, trwy gamu i mewn i Nantclwyd y Dre - y trefblas ffrâm goed hynaf yng Nghymru - neu fynd i fwrw golwg ar hen Garchar Rhuthun. Neu fwynhau cerddoriaeth o safon fyd-eang yn yr Ŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Flynyddol yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
Os hoffech gael rhywbeth gwahanol yna mae bargeinion i’r teulu i gyd i’w cael ym Manwerthfa Ffatri Tweedmill.
Os ydych chi’n hoff o’r awyr agored, mae digonedd o gyfleoedd i fwynhau gwyrddni’r Dyffryn mewn lleoedd fel Parc Gwledig Loggerheads ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Ym Mwlch yr Oernant fe gewch olygfeydd bendigedig o’r Dyffryn a chewch fynd ar deithiau cerdded aruthrol a fydd yn peri ichi deimlo eich bod ar ben eich digon.
Yng Nghoedwig Llandegla mae beicio mynydd gyda’r gorau i’w gael ar gyfer seiclwyr o bob gallu tra mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn ymdroelli trwy’r Dyffryn.
A chofiwch am yr adeiladau y mae prif enwogrwydd Gogledd Cymru wedi’i seilio arnynt – y Cestyll! Mae nifer fawr ohonynt i’w cael yn Nyffryn Clwyd - dyna ichi Gastell Rhuddlan, o’r 13eg ganrif, yn y Gogledd ac adeilad diddorol Castell Dinbych lle gallwch chi gamu i mewn i fyd cyfrin trwy ofyn am allweddi Muriau’r Dref. Neu beth am fynd i weld y casgliadau celfyddyd cenedlaethol, y gerddi godidog a’r ystafelloedd ysblennydd yng Nghastell Bodelwyddan.
Er mwyn archwilio Dyffryn Clwyd dilynwch y dolenni oddi ar y dudalen hon.